Eleni, ffurfiwyd partneriaeth rhwng Gweithdy Printio Caerdydd (GPC) a Tŷ Canna– Gwasanaeth Allgymorth Iechyd Meddwl Cyngor Caerdydd. Ym mis Ebrill 2023 cyflwynwyd chwech o sesiynau wythnosol gwneud printiau gyda dau grŵp, gydag arddangosfa i ddilyn. Cafwyd tair sesiwn hyfforddi pellach ar gyfer gwirfoddolwyr a staff Tŷ Canna, er mwyn eu galluogi i gynnig gweithgareddau yn fewnol.

Nod y prosiect peilot a arianwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Tŷ Canna ei hun oedd archwilio a oes yna nodweddion penodol o’r broses gwneud printiau sy’n hyrwyddo lles ac sydd o fudd i bobol â phroblemau iechyd meddwl. Ymchwiliwyd yn helaeth i fuddion y celfyddydau i les a iechyd meddwl ond nid oes llawer o dystiolaeth ar fuddion y gelfyddyd benodol o wneud printiau (ar wahân i waith a wnaed gan weithdai fel Double Elephant Print Workshop yn Nyfnaint sydd wedi gweithio am
nifer o flynyddoedd yn y maes hwn*). Gall hwn ddylanwadu ar a llywio unrhyw brosiectau gan GPC sy’n ymwneud â iechyd a gall gyfrannu i dystiolaeth ynglŷn â’r gelfyddyd benodol hon yng nghyswllt iechyd a lles.
Mae GPC a Tŷ Canna yn gytûn bod gan y celfyddydau bwêr i hyrwyddo lles. Mae Tŷ Canna yn gweithio gydag oedolion sy’n dioddef o iechyd meddwl gwael sydd wedi cael eu cyfeirio i’r gwasanaeth gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, yr Uned Dibyniaeth Gymunedol neu’r Tîm Fforensig Cymunedol. Maen nhw’n cefnogi y rhai sy’n defnyddio’u gwasanaeth i weld bywyd y tu hwnt i’w diagnosis iechyd meddwl ac yn cyd-weithio â nhw i gyrraedd nodau tuag at adferiad.









Nid oedd angen profiad na sgiliau artistig blaenorol ar gyfer y sesiynau a luniwyd. Ar ddiwedd pob sesiwn rhoddwyd amser a chyfle i bawb fyfyrio ar y gwaith a grëwyd ac i drafod printiau ei gilydd. Yna cynhaliwyd arddangosfa dros gyfnod o fis o’r gwaith celf a wnaed yng Nghanolfan Gelf Neuadd Llanofer yng Nghaerdydd a chynhaliwyd digwyddiad agoriadol i gyfranogwyr, teuluoedd a ffrindiau.

Ym mis Gorffennaf 2023, cyflwynwyd tair sesiwn hyfforddi i wirfoddolwyr a staff Tŷ Canna, gan addysgu’r sgiliau angenrheidiol i arwain sesiynau mewnol syml gwneud printiau yn Tŷ Canna gan ganolbwyntio ar dechnegau nad oedd angen gwasg argraffu. Yn ogystal, datblygwyd cyfres o daflenni gwaith cam-wrth-gam er mwyn cefnogi parhad taith gwneud printiau Tŷ Canna a darparwyd cit yn cynnwys yr holl offer angenrheidiol. Mae’r taflenni gwaith hyn ar gael i’w lawrlwytho ar wefan Gweithdy Printio Caerdydd.

Amlygwyd ar ddiwedd y prosiect byr hwn bod gwneud printiau wedi cynnig llawer ac wedi darparu nifer o fuddion i gyfranogwyr Tŷ Canna a gwelwyd bod nodweddion arbennig sydd yn fuddiol i bobol â phroblemau iechyd meddwl wrth wneud printiau:
- Mae’r cyfle i ail-weithio print- yr angen i groesawu “profi a methu” a’r elfen o ddewis- yn annog cyfranogwyr i ildio gafael / rheolaeth ac yn hyrwyddo arbrofi
- Mae’r broses gwneud printiau – rhoi ffurf i’r syniad wrth i’r gwaith celf ddatblygu mewn camau- yn hyrwyddo’r gallu i ganolbwyntio a datrys problemau
- Mae’r gwagle gwneud printiau – ble rhennir inciau, deunyddiau a’r wasg – yn hybu cysylltiadau cymdeithasol

Dyma ddetholiad o’r adborth a dderbyniwyd yn ystod ac ar ôl y prosiect:
“Mae nifer ohonon ni yn hoffi bod mewn rheolaeth. Mae gwneud printiau yn eich gorfodi i ollwng gafael -mewn ffordd ddiogel- ac i roi cynnig ar bethau newydd.”
“Dwi wedi arbrofi mwy yn y pedair wythnos diwethaf na wnes i mewn blynyddoedd.”
“Dwi’n gwneud llawer o weithgareddau celf a chrefft ond dwi ddim yn meddwl amdano ar ddiwedd y sesiwn. Gyda gwneud printiau, bues i’n meddwl amdano ar ôl gorffen, gan geisio datrys y ffordd orau i gyflawni’r effaith r’on ni ei eisiau.”
“Dwi ddim fel arfer yn cadw at wneud pethau, ar ôl ychydig dwi’n rhoi’r gorau iddi. Ond dwi wedi gallu cadw canolbwyntio sy’n anodd i fi.”
“Mae gwneud printiau yn eich helpu i oresgyn perffeithrwydd, achos bod modd i chi roi cynnig arni unwaith eto.”
Dywedodd y mwyafrif o’r cyfranogwyr hefyd y buasen nhw wedi hoffi i’r prosiect bara’n hirach.

Mae GPC yn gobeithio parhau i weithio gyda Tŷ Canna ac i ehangu’r prosiect mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill i hyrwyddo gwelliant lles oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl gwael. Mae copi o’r astudiaeth achos ar gael ar wefan Wales Arts, Health and Wellbeing Network website https://wahwn.cymru/case-studies
*https://www.doubleelephant.org.uk/print-on-prescription
